Ein nôd yw dod â phobl ynghyd. Ymunwch â ni am ddiwylliant, sinema, gigs, bwyd, llety a phrofiadau da yma yn Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru.
BWYTA
YFED
GWYLIO
CYSGU
BLAENAU FFESTINIOG

Croeso
i Cellb
Sinema & Gigs
SBOILIWCH EICH SYNHWYRAU
Mae gennym 2 sgrîn i ti fwynhau. SGRIN1 yw ein sinema safonol lle cei di beth rwyt ti’n ei ddisgwyl. SGRIN2 yw ein sgrîn mwy hamddenol sydd yn hen cwrt CellB, sy’n golygu cei di brofiad mwy ymlaciol. Mae gennym hefyd amrywiaeth eang o gigs i chi fwynhau.
Cymuned
TYFU GYDA’N GILYDD
Mae rhoi llwybr creadigol i’r ifanc mor bwysig. Mae Gwallgofiaid yn fenter gymdeithasol nid-er-elw sydd wedi bod yn darparu hyfforddiant creadigol i bobl ifanc Blaenau Ffestiniog ers 2003. Mae’r gweithdai’n cynnwys sglefrio, fideo a sain.
HOSTEL
CYSGWYCH MEWN ADEILAD HANESYDDOL YMA
Mae pob un o’n hystafelloedd wedi’u creu i ddathlu iaith, diwylliant a hanes unigryw Bro Ffestiniog. Gadewch eich Beic DH gyda ni – neu eich offer dringo; ymlaciwch a darllena yn eich ystafell; goginwch yn y gegin; eisteddwch tu allan neu tu mewn; gwyliwch y teledu neu edrychwcg ar eich Instagram.
PIZZA STINIOG POP-UPS
GWYLIWCH ALLAN AM DDYDDIADAU’R POP-UPS!
Bwyta i mewn neu i fynd allan… y dewis gyda chi!
Ymlaciwch yn ein gerddi, gwyliwch ffilm, neu rhowch eich traed i fyny yn y Snug wrth fwynhau’r pitsa gorau yn y fro!